Cwestiwn 1 - Yn
eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn
cyfrannu at y deilliannau a’r targedau a nodir yng Nghynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru?
|
Cytuno'n gryf
Mae'r deilliannau’r cynlluniau yn briodol, yn addas i'r
diben ac yn ffocysu AALl ar flaenoriaethau ieithyddol
Mae
rhai deilliannau yn anodd eu heffeithio gan eu bod yn rhai hir
dymor pell (ee cynyddu mwy o ddysgwyr 7 oed / 13 mlwydd oed–
mae'r targed 7 mlynedd yn rhy bell er mwyn mesur effaith). Sut
gellir mesur cynnydd tymor byr / tymor canol? A ddylid mesur
niferoedd dysgwyr 4 oed i ateb hyn?
Mae
cynllunio strategol wedi bod yn wendid mewn AALl ac mae hyn wedi
arwain at wasgedd o ran niferoedd neu ddiffyg darpariaeth.
Mewn rhai achosion mae wedi arwain at ddiffyg tŵf,
ble mae AALl eraill wedi gwneud cynnydd tuag at y
targedau
Yn
anffodus gan nad oes canlyniad amlwg i osgoi cyrraedd targedau mae
sefyllfa yn gallu datblygu nad yw'r cynlluniau yn ymyrryd ar lefel
strategol i dyfu'r sector
|
Os ydych o’r farn
nad yw Cynlluniau Strategol
Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu ddigon, sut y gellir datrys
hyn?
|
Dylai fod monitro mwy
manwl o'r targedau
Dylai fod atebolrwydd
yn dilyn diffygion o ran cynnydd isel
|
Cwestiwn 2 - Yn
eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn
sicrhau’r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu
a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar
gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg)?
|
Prif
drafferth y cynlluniau yw nad ydynt yn cael eu monitro yn ddigon
tynn – mae targedau’r cynlluniau yn canolbwyntio ar
gynnydd tymor hir dymor.
Dylai LlC wneud awdit o ble mae cynnydd o ran y ddarpariaeth /
niferoedd ar draws Cymru ac a yw hynny wedi'i adlewyrchu yn y
cynlluniau. Os oes ardaloedd o ddiffyg cynnydd / darpariaeth
– dylid cael system o atebolrwydd i AALl sy'n arwain yn yr
ardaloedd hynny
Gan
fod Grant Y Gymraeg mewn Addysg bellach wedi ei gyfuno a Grant
Effeithiolrwydd Ysgolion (EIG) – sut yn union yr ariennir y
Cynlluniau? Mae'r diffyg cysylltiad yn mynd i arwain at
ddiffyg atebolrwydd. Gan y dyrennir arian EIG i Gonsortia
– sut mae hyn yn clymu gyda Cynlluniau Y Gymraeg AALl
unigol?
|
Os ydych o’r farn
nad yw Cynlluniau Strategol
Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau newidiadau, neu na allant wneud
hynny, sut y gellir datrys hyn?
|
Gweler uchod
|
Cwestiwn 3 - Beth
yw eich barn ar y trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro;
adolygu; cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â
gofynion Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl
awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn)?
|
Nid
oes rôl
monitro digon tynn.
Mae
diffyg llinyn strategol rhwng arian y grant (EIG) a Chynlluniau
strategol y Gymraeg, Consortia ac AALl
|
Os ydych o'r farn bod
problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?
|
Dylid sicrhau ariannu
digonol o'r cynlluniau ar wahan.
Mae pryder nad yw pob
AALL yn ariannu Addysg Cyfrwng Cymraeg ar yr un lefel nac yn
ôl gofynion y sector
A ddylid ariannu
tŵf datblygiad Addysg Cyfrwng Cymraeg (oedran Meithrin
/ Derbyn) yn fwy hael i sicrhau tŵf?
|
Cwestiwn 4 - Yn
eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn
amlygu rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg
Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol
eraill*?
(*er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr
Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw:iaith byw;
Dechrau’n Deg; polisi cynllunio)?
|
Mae
anghydweld yma.
Polisi teithio ôl
16?
Polisi cludiant am ddim cyn 4 oed?
Niferoedd Cyfrwng Cymraeg Dechrau'n Deg – isel iawn mewn
rhai AALl
Arian Ysg 21ain Ganrif – yn sicrhau tŵf
o'r oedran cywir / ifanc?
Hyrwyddo’r Gymraeg yn anffurfiol - cyllido ar draws
sectorau
Polisïau mynediad / cynhwysiant – mae darpariaeth
ADY cyfrwng Cymraeg yn isel – a yw'r Cynlluniau strategol yn
uwch oleuo hyn o dan y deilliannau ? os nad yw? pam? a beth a
wneir gyda'r wybodaeth hon?
|
Os ydych o'r farn bod
problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?
|
ADY /
Cynhwysiant – darpariaeth cyfrwng Cymraeg drwy Gymru –
a yw'r cynlluniau yn ddigon heriol yn ôl y gofyn yn y maes hwn?
|
Cwestiwn 5 - Yn
eich barn chi, a yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol
Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl, gan
gynnwys er enghraifft, disgyblion cynradd / uwchradd; plant o
gartrefi incwm isel?
|
|
Beth
yw'r niferoedd o safleoedd Dechrau'n Deg cyfrwng
Cymraeg?
A yw
tâl teithio o oedran cyn ysgol yn lleihau a rhwystro
tŵf
A yw
diffyg o ran darpariaeth lleol i blant ifanc yn lleihau / rhwystro
tŵf?
A yw
codi tâl teithio addysg ôl 16
yn atal / gosod rhwystrau i ddisgyblion gael mynediad a pharhau
oddi fewn i'r sector ar ôl
16?
A
yw'r cynlluniau yn ddigon miniog i ateb y galw yma?
|
|
Os ydych o’r farn
nad yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau
canlyniadau teg, sut y gellir datrys hyn?
|
|
Ariannu lleoedd
Dechrau'n Deg cyfrwng Cymraeg ar wahân i bob AALl
Ymchwil i ariannu
teithio am ddim i blant cyn 4 mlwydd oed o fewn y sector
Ymchwil i effaith cost
tâl ar deithio ôl 16 mewn ardaloedd o Gymru
|
|
Cwestiwn 6 - Os
byddai'n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r
holl bwyntiau rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad
hwnnw?
|
1. Sicrhau monitro
cynlluniau mwy gofalus ac atebolrwydd o dargedau tymor byr / canol
(yn ogystal a targedau tymor hir)
2. Ariannu teg o Addysg
Cyfrwng Cymraeg – fformiwla gytûn / argymhelliad cytûn gan LlC (gyda diwedd Grant Y Gymraeg mewn
Addysg ac ariannu "ring-fenced" cyfrwng Cymraeg – gall hyn
effeithio ar gynllunio a darpariaeth cyfrwng Cymraeg
|
Cwestiwn 7 - A
oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi
na soniwyd amdanynt yn y cwestiynau penodol?
|
Mae sefydlu'r
Cynlluniau gyda’r argymhelliad i sefydlu Fforymau Addysg
Cyfrwng Cymraeg yn lleol wedi bod yn gam pwysig gan LlC
Mae hyn wedi creu
trafodaeth strategol bwysig o fewn AALl – y cam nesaf yw
sicrhau fod y drafodaeth yn effeithio ar bolisi / cynllunio
strategol
Dylid sicrhau fod
arweiniad rheolaeth uchel o fewn AALl i'r cynlluniau
Dylid pennu cyfrifoldeb
o fewn cabinet AALl yn atebol i'r cynllun
Diolch am y cyfle i
ymateb.
|